Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.
Pan Fyddwn Ar Gau
Ffôniwch 111 pan fydd yna bryder, ond yn llai brys na 999
Rhif di-argyfwng y GIG.
111 yw rhif di-argyfwng y GIG. Mae’n gyflym, yn hawdd ac am ddim. Ffôniwch 111 â siaradwch â chynghorydd hyfforddedig a chefnogir gan weithwyr gofal iechyd proffessiynol. Mae GIG 111 ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffônau symudol.
Os ydych chi’n Fyddar ac yn dymuno defnyddio’r gwasanaeth ffôn, gallwch ddefnyddio gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain GIG 111 sydd ar gael yn eich gwlad:
- Lloegr – gwasanaeth dehonglydd (BSL) GIG 111
- Scotland – GIG 24 111
- Cymru – GIG 111 Cymru
- Gogledd Iwerddon – GIG 111 Gogledd Iwerddon
Gallwch chi hefyd ffonio 19001 111 ar ffôn testun.
Sut mae GIG 111 yn gweithio
Byddwch chi'n ateb cwestiynau am eich symptomau ar y wefan, neu drwy siarad â chynghorydd sydd wedi'i hyfforddi'n llawn dros y ffôn.
Gallwch chi ofyn am gyfieithydd os oes arnoch chi angen hynny.
Yn dibynnu ar y sefyllfa, byddwch chi'n:
- canfod pa wasanaeth lleol a all eich helpu chi
- cael eich cysylltu â nyrs, deintydd brys, fferyllydd neu feddyg teulu
- cael apwyntiad wyneb yn wyneb os bydd arnoch chi angen hynny
- cael gwybod sut i gael gafael ar unrhyw foddion sydd eu hangen arnoch
- cael cyngor ynghylch hunanofal
Gallwch chi hefyd gael:
Y Tu Allan i Oriau Arferol ac ar Benwythnosau
Y tu allan i oriau arferol y feddygfa, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth meddygol ar gyfer problemau Gofal Sylfaenol sy’n datblygu y Tu Allan i Oriau, a gyflawnir yn aml gan feddygon teulu lleol.
Mae’r system yn weithredol rhwng 18:30 a 08:00 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o ddydd Gwener 18:30 i 08:00 ddydd Llun a holl Ŵyl y Banc. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer sefyllfaoedd brys na all aros tan oriau arferol y feddygfa yn unig ac nid yw'n ddewis amgen yn lle system apwyntiadau'r feddygfa ei hun. Gallwch chi gysylltu â rhif y GIG ar gyfer sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys, 111