Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.

Fel rhan o'n hymgysylltiad parhaus ynghylch cynigion i newid ffin practis 'Healthy Prestatyn Iach', rydym wedi trefnu digwyddiad cyhoeddus pellach.
Bydd cynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd a thîm y practis ar gael i ateb cwestiynau a rhoi rhagor o wybodaeth yn ystod sesiwn galw heibio yn Neuadd Goffa Trelawnyd, Dydd Iau yma, Gorffennaf 9, rhwng 5:15-6:45pm.
Os na allwch ddod i'r digwyddiad hwn, gallwch hefyd gysylltu â ni i rannu eich barn drwy:
- Anfon e-bost atom yn: bcu.denbighshireprimarycare@wales.nhs.uk
- Ein ffonio ar: 03000 851860 - mae staff ar y ffonau rhwng 10am-2pm. Gallwch hefyd adael neges ar beiriant ateb y tu allan i'r oriau hyn
- Mynediad at ein ffurflen adborth gan ddefnyddio'r Cod QR a ddarperir

Published: Jul 6, 2026