Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.
Annwyl Glaf,
Dymunwn rannu diweddariad ynghylch ffin Practis Healthy Prestatyn Iach.
Fe wnaethom ysgrifennu at eich aelwyd ym mis Mehefin i'ch hysbysu ein bod yn cynnig rhywfaint o newidiadau i ffin ein Practis. Fe wnaethom ni wrando ar adborth a gwneud rhywfaint o newidiadau i'r cynnig ynghylch y ffin, a restrir isod.
Mae'r newid ffin wedi'i gymeradwyo a daw i rym ar 1 Ionawr 2027.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Daliwch ati i ddefnyddio meddygfa Healthy Prestatyn Iach yn unol â’r arfer.
Newidiadau a wnaed ar ôl gwrando ar gleifion
Diolch i bawb a wnaeth rannu eu safbwyntiau â ni yn ein digwyddiadau ymgysylltu, dros y ffôn, drwy e-bost a thrwy ein harolwg ar-lein.
Ar ôl gwrando ar eich adborth, fe wnaethom rywfaint o newidiadau i'r cynigion:
- Bydd pentref Gwaunysgor yn parhau o fewn ffin newydd Practis HPI.
- Bydd cleifion sy'n byw yn Nhrelawnyd, Trelogan a Llanasa sydd wedi’u cofrestru â Healthy Prestatyn Iach yn gallu cofrestru â Meddygfa Park House.
- Bydd Cleifion presennol HPI sy'n byw ym Modelwyddan yn gallu cofrestru â’r Practis a ddaw yn gyfrifol am redeg cangen y Feddygfa yn Rhuddlan
- Bydd cleifion ag anghenion iechyd cymhleth yn cael trosglwyddiad manylach. Gall hynny gynnwys trafodaeth wyneb yn wyneb rhwng eu meddyg teulu presennol a'u meddyg teulu newydd i helpu i sicrhau parhad gofal
Nodyn atgoffa pwysig Bydd cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes yn parhau i fod wedi'u cofrestru gydag Healthy Prestatyn Iach beth bynnag fo cyfeiriad eu cartref.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ni wnaiff unrhyw beth newid tan fis Ionawr 2027.
- Daliwch ati i ddefnyddio'r practis yn unol â’r arfer.
- Nid oes angen i chi gysylltu â meddygfa arall na symud iddi
- Bydd apwyntiadau, presgripsiynau a gwasanaethau eraill yn parhau yn unol â’r arfer
- Mae cynllunio’n digwydd ar hyn o bryd i baratoi at y newidiadau. Bydd gwaith i drosglwyddo cleifion yn dechrau ar ôl i'r newidiadau i'r ffin ddod i rym ar 1 Ionawr 2027
- Bydd y Bwrdd Iechyd a meddygfeydd teulu lleol yn cydweithio i sicrhau y gwneir y newidiadau hyn yn ddiogel
A wnaiff hyn effeithio arnaf i?
Mae map yn dangos y ffin newydd wedi'i atodi wrth yr e-bost hwn ac mae ar gael ar ein gwefan. Bydd hyn yn effeithio ar gleifion sy'n byw oddi allan i'r ffin newydd a byddant yn cael eu trosglwyddo i Bractis Meddygon Teulu newydd ar ddechrau 2027, oni bai eu bod wedi'u heithrio.
Cysylltir â chleifion y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt drwy lythyr cyn i unrhyw beth newid. Bydd y llythyrau hyn yn cael eu hanfon rhwng mis Rhagfyr 2026 ac Ebrill 2027.
Gwneir hynny oherwydd caiff cleifion eu symud i'w meddygfeydd teulu newydd yn raddol. Bydd symud cleifion mewn grwpiau llai yn helpu practisau i reoli'r newidiadau'n ddiogel, cynnal parhad gofal a chwblhau unrhyw brosesau cofrestru.
Pan fydd meddygfa newydd wedi'i phennu i chi, byddwn yn anfon llythyr i gyfeiriad eich cartref, ac yn eich hysbysu:
- I ba feddygfa y byddwch chi'n symud
- Pryd fydd y newid yn digwydd
Bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel rhwng y practisau. Ni fydd angen i chi drefnu hyn eich hun.
Sut fyddaf i'n cael diweddariadau?
Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau cyffredinol drwy:
- E-byst
- Eich Gwefan
- Ein tudalen Facebook
- Posteri mewn practisau meddygon teulu
- Posteri mewn rhywfaint o leoliadau yn y cymunedau lleol
Cynnig diweddariadau cyffredinol yw diben hyn. Pan fydd meddygfa wedi’i phennu i chi, byddwn yn ysgrifennu at eich aelwyd.
Os ydych chi'n adnabod rhywun y gallai’r newidiadau hyn effeithio arnynt ond sydd heb gael yr e-bost hwn, gallant gysylltu â Healthy Prestatyn Iach i ddiweddaru eu manylion cyswllt ac ychwanegu eu cyfeiriad e-bost. Gofynnwch iddynt anfon e-bost at: healthy.prestatyn@wales.nhs.uk neu ffonio: 0300 085 0001 i ddarparu'r wybodaeth.
A fydd gen i feddyg teulu o hyd?
Bydd, bydd gan bawb bractis meddyg teulu o hyd.
Os bydd y newidiadau'n effeithio arnoch chi, byddwn yn eich hysbysu am y feddygfa y byddwch chi'n symud iddi a phryd y bydd hynny’n digwydd.
Bydd y newidiadau i'r ffiniau yn dod i rym ar 1 Ionawr 2027, ond bydd cleifion yn symud i'w practisau newydd yn raddol. Mae hynny’n golygu y gallech gael gwybodaeth am y trosglwyddo ar adegau gwahanol gan ffrindiau, perthnasau neu gymdogion.
Hyd hynny, byddwch yn parhau i fod yn glaf cofrestredig ym meddygfa Healthy Prestatyn Iach ac yn dal i gael gofal yn unol â’r arfer.
Yn gywir,
Joe Lunn
Uwch Reolwr Practis
Healthy Prestatyn Iach
Published: Sep 9, 2026