Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.
Mân Salwch
Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol Fferyllol:
-
Beth yw’r Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol Fferyllol?
Nid yw llawer o gleifion yn ymwybodol bod cyngor a chymorth iechyd ar gael yn rhad ac am ddim o fferyllfeydd cymunedol lleol heb fod angen siarad gyda Meddyg Teulu neu nyrs practis.
Byddant yn asesu eich cyflwr o fewn fferyllfa gymunedol mewn ystafell ymgynghori breifat, ac yn rhagnodi’r feddyginiaeth angenrheidiol, heb fod angen i chi wneud apwyntiad gyda Meddyg Teulu.
Gellir dod o hyd i’r fferyllfeydd sy’n cynnig y gwasanaeth hwn ar wefan GIG 111 Cymru drwy glicio ar y ddolen hon a dewis ‘Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Anhwylderau Cyffredin ac Atal Cenhedlu’ o’r golofn hidlo.
Pa fath o driniaeth y mae’r Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol Fferyllol yn ei ddarparu?
Gall y rhagnodwyr annibynnol hyn gynnig cyngor a thriniaeth ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- Heintiau’r llwybr wrinol
- Heintiau’r croen – impetigo, brech, acne
- Heintiau yn y glust
- Llid y sinysau a phoen sinws
- Dolur gwddf a thonsilitis
- Ecsema / llid ar y croen
- Yr eryr
- Llwybr Anadlu Uchaf – Peswch, Llindag y Geg
Bydd angen apwyntiad arnoch gyda Rhagnodwr Annibynnol yn eich fferyllfa leol ar gyfer asesiad a thriniaeth. Yn syml, ffoniwch hwy i drefnu apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth hwn, sydd fel arfer yn cael ei gynnig yn ystod dyddiau’r wythnos.
Mae fferyllwyr yn gallu rhagnodi gwrthfiotigau, os ydynt yn ei ystyried yn briodol, heb ymgynghoriad gan glinigydd.
Cynllun Anhwylderau Cyffredin
Beth yw’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin?
Mae llawer o gyflyrau ac anafiadau nad oes angen apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu. Gellir trin y cyflyrau a’r anafiadau hyn gartref ar eich pen eich hun neu os ydych angen gwybodaeth neu driniaeth bellach, gallwch fynd at eich fferyllydd lleol am gyngor sy’n rhad ac am ddim.
Bellach, gall llawer o'r mân gyflyrau nad oes angen i chi weld meddyg yn eu cylch, eu trin gan eich fferyllfa leol heb unrhyw gost i chi. Yn syml, ffoniwch eich fferyllfa leol a threfnwch adolygiad gyda rhagnodwr, a fydd yn gallu cynghori a dosbarthu'r feddyginiaeth fwyaf priodol ar gyfer eich anhwylder.
Nid yw’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin yn gallu rhagnodi gwrthfiotigau heb bresgripsiwn sydd wedi’i gymeradwyo gan Feddyg Teulu. Os oes angen gwrthfiotigau arnoch e.e. ar gyfer haint wrinol/croen, byddwch yn cael ei ailgyfeirio at eich Meddygfa.
Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn darparu triniaeth, yn rhad ac am ddim, ar gyfer 26 anhwylder. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Tarwden y traed
- Poen cefn
- Y frech ieir
- Rhwymedd
- Dolur rhydd
- Clefyd y gwair
- Brech cewyn
- Y clefyd crafu
- Llyngyr edau
- Dafadennau a Ferwca
- Acne
- Llid yr amrannau (dros 2 oed)
- Doluriau annwyd
- Briwiau a chrafiadau
- Dermatitis
- Dŵr poeth
- Tarwden
- Dolur gwddf
- Llindag