Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.
Math o Apwyntiadau
Apwyntiadau Meddyg Teulu
Rydym yn cynnig apwyntiadau yn ôl yr arfer ac ar y diwrnod.
Apwyntiadau Uwch Ymarferwyr Clinigol
Mae'r Uwch Ymarferydd Clinigol (yn cynnwys Uwch Ymarferydd Nyrsio) ar gael ar gyfer apwyntiadau yn ôl yr arfer ac apwyntiadau ar y diwrnod, maen nhw yn arbenigwyr sy'n delio â salwch cronig arbenigol yn ogystal â rheoli nifer o achosion acíwt yn ystod y dydd.
Apwyntiadau Nyrs Practis
Mae'r Nyrs Practis nid yn unig yn delio â chleifion gyda chyflyrau cronig, maent hefyd yn rhoi cyngor iechyd rhywiol a chyngor teithio, archwiliadau iechyd cyffredinol ac unrhyw broblemau yn gysylltiedig â'ch lles neu gwestiynau a allai fod gennych.
Mae eu hapwyntiadau ar gael i'w trefnu hyd at 3 mis ymlaen llaw. Os ydych yn dioddef o unrhyw gyflwr cronig ein nod yw cynnal eich adolygiad blynyddol o oddeutu mis eich penblwydd.
Mae apwyntiadau Brechiadau Teithio ar gael gyda’n Nyrs Practis, cyn hyn bydd angen i chi gwblhau holiadur teithio. Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda bod cost am rai brechiadau, gweler y rhestr prisiau brechiadau.
Mae Cynorthwywyr Gofal Iechyd (HCA) hefyd yn cynnig amrywiaeth o apwyntiadau. Mae rhain yn cynnwys profion gwaed yn ôl yr arfer a phrofion gwaed brys. Archwiliadau pwysedd gwaed (Gorbwysedd), archwiliadau traed Diabetig, ECGs a Spirometreg. Mae'r apwyntiadau hyn ar sail dyddiol.