Sgrinio Serfigol: Profion Ceg y Groth

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Dylai merched rhwng 24 a 64 oed gael sgrinio serfigol bob 3 i 5 mlynedd i helpu i atal canser serfigol. Mae'r sgrinio yn gyflym ac yn ddi-boen a gellir ei wneud yma yn y practis.

Os ydych dros 24 ac erioed wedi cael prawf ceg y groth, neu os yw wedi bod yn fwy na 3 i 5 mlynedd ers i chi gael eich sgrinio ddiwethaf, dylech drefnu apwyntiad gyda eich Nyrs practis. Ni ddylech gael y prawf tra rydych ar eich mislif neu yn y 4 diwrnod cyn neu ar ôl eich mislif gan y gall hyn amharu ar y sampl.

 

Beth yw sgrinio serfigol?

Nid prawf am ganser yw sgrinio serfigol. Dull o atal canser drwy ganfod a thrin annormaleddau cynnar, a allent, pe gadewid nhw heb eu trin, arwain at ganser mewn serfics merch (yng ngheg y groth).

Cymerir sampl o gelloedd o'r serfics i'w ddadansoddi. Mae meddyg neu nyrs yn mewnosod offeryn (speculum) i agor gwain y ferch ac yn defnyddio spatiwla i ysgubo o amgylch y serfics. Mae'r rhan fwyaf o ferched yn ystyried y driniaeth ddim ond fymryn yn anghyffyrddus.

Gall canfod a thriniaeth gynnar atal 75 y cant o ganserau rhag datblygu ond fel profion sgrinio eraill, nid yw'n berffaith. Efallai na wnaiff bob amser ganfod newidiadau celloedd cynnar a allent arwain at ganser.

 

Pwy sy'n gymwys am sgrinio serfigol?

Mae pob merch rhwng 25 a 64 yn gymwys am brawf sgrinio serfigol am ddim bob tair i bum mlynedd. Mae system galw ac ad-alw y GIG yn gwahodd merched sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu. Mae hefyd yn cadw cofnod o unrhyw archwiliad dilynol, ac, os yw popeth yn dda, yn ad-alw'r ferch ar gyfer sgrinio ymhen tair i bum mlynedd. Mae'n bwysig gan hynny fod pob merch yn sicrhau bod gan eu meddyg teulu fanylion eu henw a'u cyfeiriad yn gywir ac yn eu hysbysu os yw y rhain yn newid.

Gall merched sydd heb gael prawf diweddar gael cynnig un pan fyddant yn mynd at eu meddyg teulu neu fynychu clinig cynllunio teulu ynghylch mater arall. Dyali merched dderbyn eu gwahoddiad cyntaf ar gyfer sgrinio yn ôl yr arfer pan yn 25.

 

Pam na wahoddir merched o dan 25?

Mae hyn oherwydd bod newidiadau mewn serfics y rhai ifanc yn arferol. Pe meddylid eu bod yn anarferol gallai hyn arwain at driniaeth ddi-anghenrhaid a allai gael oblygiadau o ran cael plant. Gellir nodi unrhyw newidiadau afreolaidd a'u trin o 25 oed ymlaen. Yn anaml mae merched iau yn profi symptomau megis gwaedu annisgwyl neu waedu wedi cyfathrach rywiol. Yn yr achos hwn, dylent weld eu meddyg teulu am gyngor.

 

Pam na wahoddir merched dros 65?

Caiff merched 65 a throsodd sydd wedi cael tri chanlyniad negyddol yn olynol eu tynnu oddi ar y system alw ac ad-alw. Golyga hanes naturiol a dilyniant canser serfigol ei bod yn annhebygol iawn y byddai'r merched hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu'r afiechyd. Mae gan ferched 65 a throsodd sydd erioed wedi cael prawf yr hawl i un.

 

Beth am ferched nad ydynt yn weithredol yn rhywiol?

Mae Rhaglen Sgrinio Serfigol y GIG yn gwahodd pob merch rhwng yr oedrannau 25 a 64 am sgrinio serfigol. Ond os nad yw merch erioed wedi bod yn weithredol yn rhywiol gyda dyn, yna mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod ei siawns hi o ddatblygu canser serfigol yn isel iawn. Dydym ni ddim yn dweud dim risg, ond risg isel iawn. Yn yr amgylchiadau hyn fe all merch ddewis gwrthod y gwahoddiad i sgrinio serfigol ar yr achlysur hwn. Os nad yw merch yn weithredol yn rhywiol ar hyn o bryd ond wedi bod â phartneriaid gwrywaidd yn y gorffennol, yna byddem yn argymell ei bod yn parhau i sgrinio.