GDPR

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Yn dilyn cyflwyno rheoliadau GDPR gweler y poster isod am sut rydym yn defnyddio eich cofnodion meddygol a beth fydd GDPR yn ei olygu i chi

 

Beth yw GDPR?What is GDPR?

Mae GDPR yn sefyll am Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data ac yn ddarn newydd o ddeddfwriaeth a fydd yn disodli'r Ddeddf Diogelu Data.  Ni fydd ond yn berthnasol yn y DU a'r UE; mae'n berthnasol i unrhyw le yn y byd ble mae data dinasyddion EU yn cael ei brosesu.

image depicting gdpr

Mae'r GDPR yn debyg iawn i'r Ddeddf Diogelu Data (DPA) 1998 (mae'r practis yn cydymffurfio â hyn eisoes), ond yn cryfhau nifer o egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data. Y prif newidiadau yw:

  • Rhaid i bractisau gydymffurfio â cheisiadau mynediad
  • Ble rydym angen cydsyniad i brosesu data, rhaid i'r cydsyniad yma gael ei roi o wirfodd yr unigolyn, yn benodol, yn wybodus ac yn eglur
 

Beth yw data claf?

Data cleifion yw gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn unigol, megis ei diagnosis, enw, oed, hanes meddygol cynharach ayb.

 

Beth yw cydsyniad?

Cydsyniad yw caniatâd gan glaf - mae cydsyniad unigolion yn cael ei ddiffinio fel "unrhyw arwydd penodol a gwybodus o'i ddymuniadau ble mae testun y data yn arwyddo cytundeb i ddata personol yn ymwneud ag ef yn cael ei brosesu."

Mae'r newidiadau yn GDPR yn golygu bod rhaid i ni gael caniatâd eglur gan gleifion wrth ddefnyddio eu data. Mae hyn er mwyn diogelu eich hawliau i breifatrwydd, a gallwn ofyn i chi roi cydsyniad i wneud pethau penodol, megis cysylltu â chi neu gofnodi gwybodaeth benodol amdanoch chi ar gyfer eich cofnodion clinigol. Mae gan unigolion hefyd yr hawl i dynnu eu cydsyniad yn ôl ar unrhyw amser.

 

CCTV

Mae'r Ganolfan Feddygol yn cael ei monitro gan CCTV er diogelwch ein cleifion a'n staff yn unig.

Mwy am gyfrinachedd a rhannu eich data