Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.
Ein System Apwyntiad
Cyn trefnu apwyntiad - gwiriwch os gwelwch yn dda pwy sydd orau i ddelio â'ch cyflwr:
I drefnu apwyntiad, ffoniwch 0300 085 0001. Bydd aelod o staff ar gael o 8.00am hyd 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i ateb eich galwad.
Rydym yn gweithredu gwasanaeth brysbennu lle gall cleifion gysylltu â'r practis o 8.30am, bydd gofyn i chi grybwyll natur y broblem i'r derbynnydd. Cewch unai eich ychwanegu i'r rhestr brysbennu neu eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf addas ynghylch eich problem.

Yna fe gewch alwad yn ôl neu apwyntiad ar y diwrnod fydd yn cynnal eich ymgynghoriad. Os gellir delio â'r mater dros y ffôn, caiff ei drefnu gan ein tîm gweinyddu os oes angen gweld meddyg arnoch.
Gallwch hefyd wneud cais am y gwasanaeth hwn drwy e-bostio gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddiogel rhwng 9.30am a 3.30pm.
Drwy ddefnyddio'r gwanaeth brysbennu gallwch:
- Gael cais i ddod i'r practis
- Derbyn cyngor dros y ffôn
- Cael eich cyfeirio at wasanaeth arall addas
- Cael trefnu archwiliadau
- Derbyn apwyntiadau gan staff eraill yn y practis
Dim ond ceisiadau brys a dderbynnir wedi 4pm a gofynnir i'r holl alwadau arferol wedi'r amser hwn alw yn ôl y diwrnod canlynol. Bydd y claf yn derbyn galwad yn ôl ar yr un diwrnod oni bai bod y llwyth gwaith yn eithriadol ac nad yw'n caniatáu amser ar gyfer hyn.
Gwnawn ein gorau i gadw amseroedd aros i'r lleiafswm ond mae problemau brys yn codi'n annisgwyl ac fe allent achosi oedi o ran rhai apwyntiadau. Yn yr amgylchiadau neilltuol hyn bydd ein derbynyddion yn ymdrechu i roi gwybod i chi ac yn rhoi'r opsiwn i chi ganslo neu ail-drefnu eich apwyntiad.
Os nad oes modd i chi gadw apwyntiad, rhowch wybod i'r practis cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.
Gwasanaethau Dehongli
Os bydd arnoch angen dehonglydd ar gyfer eich apwyntiad, a fyddech cystal â thynnu sylw'r practis at hyn cyn eich apwyntiad fel y gallwn drefnu hyn i chi?
Damweiniau ac Argyfyngau
Yn wyneb damwain ddifrifol neu argyfwng meddygol, galwch 999 heb oedi.
Cofiwch, fodd bynnag, bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn adnodd wedi ei ymestyn hyd ei eithaf, yn enwedig y tu allan i oriau, a bod galwadau di-anghenrhaid nad ydynt yn rhai brys yn rhoi pwysau ychwanegol ar griwiau Ambiwlans.