Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.
Cyfrinachedd
Mae gan y Practis ddyletswydd gyfreithiol i esbonio sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi, fel claf cofrestredig yn y practis. Mae staff y practis hwn yn cadw cofnodion am eich iechyd a'r driniaeth a gewch ar ffurf electronig a phapur.
Pa wybodaeth yr ydym ni'n ei chasglu amdanoch chi?
Byddwn yn casglu gwybodaeth megis manylion personol, gan gynnwys enw, cyfeiriad, perthynas agosaf, cofnodion apwyntiadau, ymweliadau, galwadau ffôn, eich cofnodion iechyd, triniaeth a meddyginiaeth, canlyniadau profion, pelydrau-x ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall i’n galluogi i ddarparu gofal meddygol effeithiol.
Sut fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Cesglir eich data at ddiben darparu gofal cleifion uniongyrchol; fodd bynnag, gallwn ddatgelu’r wybodaeth hon os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, os byddwch yn rhoi caniatâd neu os gellir ei chyfiawnhau er budd y cyhoedd.
Efallai y gofynnir i'r practis gefnogi ymchwil; fodd bynnag, byddwn bob amser yn cael eich caniatâd cyn rhannu eich gwybodaeth â chronfeydd data ymchwil meddygol pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny.
Mae GIG Cymru hefyd yn defnyddio gwybodaeth berthnasol am eich iechyd i helpu i wella gwasanaethau GIG Cymru ac iechyd y cyhoedd. Dim ond os bydd ei hangen arnynt y bydd gwybodaeth yn cael ei defnyddio neu ei throsglwyddo i eraill sy'n ymwneud â'ch gofal.
Pryd bynnag y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer eich gofal bydd yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd GIG Cymru fel arfer yn datgelu eich gwybodaeth bersonol heb eich cydsyniad chi oni bai ei fod er eich lles pennaf neu’n ofynnol yn unol â'r gyfraith.
Cynnal cyfrinachedd a chael mynediad at eich cofnodion
Rydym wedi ymrwymo i gynnal cyfrinachedd a diogelu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Rydym yn cadw at Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y Cod Ymarfer Cyfrinachedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Mae gennych hawl i gael mynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch, os hoffech gael mynediad at wybodaeth bydd angen i chi gwblhau Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR). Gofynnwch yn y dderbynfa am ffurflen SAR.
Yn ogystal, os byddwch yn nodi unrhyw wallau, mae gennych yr hawl i gael y data anghywir wedi'i gywiro.
e data corrected.
Clystyrau Gofal Sylfaenol: Mynediad at Wybodaeth Feddygol
Mae grwpiau o Feddygfeydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu bodloni yn y ffordd orau posibl. Adnabyddir y rhain fel 'Clystyrau Gofal Sylfaenol'.
Bydd Meddygon Teulu yn gweithio ochr yn ochr Nyrsys, Fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill, fel Ffisiotherapyddion, gan rannu eu llwyth gwaith.
Bydd hyn yn golygu, yn y dyfodol, efallai byddwch yn gallu derbyn gwasanaethau a fyddai wedi cael eu darparu'n flaenorol mewn ysbyty hefyd.
Bydd hefyd yn golygu, yn y dyfodol, efallai y byddwch yn gallu derbyn gwasanaethau a fyddai wedi cael eu darparu yn flaenorol mewn ysbyty.
Sut bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol?
Cedwir eich gwybodaeth ar system gyfrifiadurol ddiogel ac mae mynediad ati yn cael ei reoli'n llwyr, ei fonitro a'i archwilio. Mae'r Meddygfeydd sydd yn y Clwstwr wedi arwyddo cytundeb, i gadarnhau y bydd eu staff yn dilyn rheolau llym pan fyddent yn cael mynediad at eich gwybodaeth.
Mae'r holl staff yn cael hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Pwy fydd yn gallu gweld fy ngwybodaeth feddygol?
O fewn pob clwstwr, bydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd ynghlwm â'ch gofal fynediad at eich cofnod meddygol.
Gall Fferyllwyr gael mynediad at eich cofnodion pan fyddant, er enghraifft, yn adolygu presgripsiynau neu'n ateb unrhyw ymholiadau o ran eich meddyginiaeth.
Mae gan weithwyr derbynfa hefyd fynediad er mwyn cyflawni tasgau fel; prosesu presgripsiynau, darparu canlyniadau profion a'ch cyfeirio at weithiwr iechyd proffesiynol priodol.
Bydd yr holl staff sy'n cael mynediad at eich cofnod yn cael eu cyflogi gan bractis o fewn y Clwstwr Meddyg Teulu hwn neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Pryd fydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu?
Byddem ond yn rhannu eich gwybodaeth gyda staff sy'n gweithio yn y Clwstwr (mae hyn yn cynnwys staff y Bwrdd Iechyd sy'n gweithio yn y gymuned) sy'n eich trin chi neu'n cefnogi eich gofal.
Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw un arall heb eich caniatâd oni bai bod amgylchiadau eithriadol (h.y. sefyllfa byw neu farw) neu lle mae’r gyfraith yn mynnu hynny.
Sut ydw i'n cael mynediad at fy ngwybodaeth feddygol?
Mae gennych hawl dan y ddeddfwriaeth diogelu data i gael mynediad neu weld y wybodaeth y mae'r practis yn ei chadw amdanoch, ac i'w newid os nad yw'n fanwl gywir. Os hoffech wneud cais, cysylltwch â'ch practis.
Manteision rhannu eich gwybodaeth o fewn Clwstwr
- Bydd gennych fynediad cynt at weithiwr iechyd proffesiynol
- Ni fydd angen i chi ail-ddweud eich hanes meddygol wrth y staff sy'n gofalu amdanoch
- Byddwch yn parhau i fod yn rhan o wneud unrhyw benderfyniadau am eich gofal
- Bydd gennych chi ystod ehangach o leoliadau ar gael ar gyfer ymgynghoriadau
- Bydd gennych chi ystod ehangach o wasanaethau ar gael
Eich gwybodaeth, Eich hawliau - beth sydd angen i chi ei wybod
Os oes gennych bryderon am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, dylech drafod y rhain gyda'r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd sy'n gyfrifol am eich gofal.
Os hoffech wybod mwy am sut y defnyddir eich gwybodaeth bersonol, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000)
Mae’r ddeddf uchod yn rhoi’r hawl i unigolion gael mynediad at bob math o wybodaeth a gofnodwyd. Gofynnwch am fwy o wybodaeth.