Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Ffin Practis?
"Mae'r holl Bractisau Meddygon Teulu yn gweithredu o fewn ffin ddynodedig. Mae'n rhaid i Bractisau Meddygon Teulu gofrestru cleifion sy'n byw y tu mewn i ffin eu practis ond nid oes ganddynt unrhyw ofyniad cyfreithiol i gofrestru cleifion sy'n byw y tu allan i'w ffin."
Pam mae'r newidiadau hyn yn cael eu cynnig?
“Ar hyn o bryd, mae Healthy Prestatyn Iach yn un o'r practisau meddygon teulu mwyaf yng Ngogledd Cymru o ran yr ardal ddaearyddol y mae'n gyfrifol amdani a nifer y cleifion y mae'n eu gwasanaethu. Cafodd Healthy Prestatyn Iach ei ffurfio ddeng mlynedd yn ôl wedi i dri phractis meddyg teulu ar wahân gael eu cyfuno a chaiff ei reoli'n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).”
“Ers y cyfuno, mae'r practis wedi parhau i gynnig gofal ar draws ardal fawr iawn sy'n ymestyn dros rannau o Ogledd Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Fodd bynnag, mae gweithredu gwasanaethau ar draws safleoedd lluosog ac ôl troed daearyddol eang yn creu pwysau gweithredol a phwysau o ran y gweithlu.
Felly, mae'r newidiadau arfaethedig i'r ffin yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau gofal sylfaenol ar draws yr ardal. Y nod yw sicrhau bod ffiniau practisau meddygon teulu yn caniatáu darparu gwasanaethau'n effeithiol ac yn caniatáu cynnig gofal yn nes at y cartref lle bynnag y bo modd.”
“Mae rhai practisau cyfagos wedi dweud y gallai derbyn mwy o gleifion helpu i atgyfnerthu eu cynaliadwyedd yn y tymor hir ac y gallai hynny ganiatáu iddynt gynnig ystod ehangach o wasanaethau yn y dyfodol.”
“Ar y cyfan, bwriad y cynigion yw ei gwneud yn haws i gleifion fanteisio ar ofal yn nes at y cartref, sicrhau bod poblogaethau practisau'n cyd-fynd yn well â chapasiti gwasanaeth lleol, cynnal sefydlogrwydd practisau meddygon teulu yn y tymor hir, a sicrhau bod adnoddau gofal iechyd yn cael eu defnyddio'n deg ar draws yr ardal.”
A oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud?
“Nac oes. Cynnig yw hwn ar hyn o bryd.
Rydym yn ymgymryd â chyfnod ffurfiol o ymgysylltu er mwyn casglu adborth gan gleifion, staff, cynrychiolwyr cymunedol a rhanddeiliaid er mwyn bod yn sail i'n penderfyniad. Caiff yr holl adborth a ddaw i law yn ystod y broses ymgysylltu ei adolygu'n gyson a bydd yn helpu i fod yn sail i'r argymhellion terfynol.
Bydd unrhyw gynigion hefyd yn amodol ar brosesau adolygu ffurfiol yn BIPBC cyn cael eu rhoi ar waith.”
“Caiff penderfyniadau terfynol a wneir gan BIPBC mewn perthynas â'r broses hon eu cyhoeddi ar wefan y practis.”
A fydd yn rhaid i mi newid i bractis meddyg teulu arall?
“Os caiff y newidiadau i'r ffin eu cefnogi, byddai cleifion sy'n byw y tu allan i unrhyw ffin practis HPI yn cael eu trosglwyddo i bractis meddyg teulu lleol arall. Byddai hyn yn digwydd yn awtomatig a byddai cleifion a fyddai'n cael eu heffeithio'n cael gwybod am eu Practis Meddyg Teulu newydd cyn cael eu trosglwyddo.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw newidiadau uniongyrchol yn cael eu gwneud. Os cytunir ar unrhyw newidiadau, bydd cleifion sydd wedi'u heffeithio yn derbyn gwybodaeth, cymorth ac arweiniad clir trwy gydol y broses."
Pryd fyddai'r newid yn digwydd?
“Os cytunwyd ar unrhyw newidiadau, dylai'r penderfyniad gael ei wneud erbyn diwedd Gorffennaf 2026. Yna, byddai unrhyw newidiadau'n fwyaf tebygol o ddigwydd rhwng Ionawr a Mawrth 2027."
Pam na allaf barhau i fod yn gofrestredig â HPI?
"Mae practisau meddygon teulu yn gweithredu yn unol â ffiniau practisau cytunedig o dan gontract. Mae'r ffiniau hyn yn helpu practisau meddygon teulu i reoli cyfrifoldebau ymweld â chartrefi, mynediad ar gyfer cleifion a darparu gwasanaethau'n ddiogel. Os caiff ffin practis ei newid yn ffurfiol, efallai na fydd cleifion sy'n byw y tu allan i'r ffin ddiwygiedig yn gymwys i barhau i fod yn gofrestredig â'r practis hwnnw yn barhaol mwyach.
Mae'r cynigion yn cael eu hystyried er mwyn helpu i greu gwasanaethau meddygon teulu mwy cynaliadwy ac effeithlon ar draws yr ardal gan gynorthwyo cleifion i fanteisio ar ofal yn nes at y cartref.”
A fydd tarfu ar fy ngofal?
“Ein nod yw lleihau tarfu gymaint â phosibl. Pe baem yn bwrw ymlaen â'r cynigion, byddai unrhyw gleifion yn cael eu trosglwyddo'n raddol ac mewn ffordd sydd wedi'i rheoli'n ofalus, a byddai cymorth ar gael ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth.
Caiff yr holl wybodaeth glinigol berthnasol ei throsglwyddo'n ddiogel i bractisau meddygon teulu newydd cleifion er mwyn cynnal dilyniant gofal. Ar gyfer cleifion sydd ag anghenion mwy cymhleth, caiff nodiadau briffio mwy cynhwysfawr eu hychwanegu at eu cofnodion er mwyn helpu i sicrhau trosglwyddiad diogel a rhwydd. Mae sianeli cyfathrebu eisoes wedi'u sefydlu rhwng practisau, a bydd y rhain yn parhau i fod ar gael os bydd ar y practis newydd angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad yn ymwneud ag anghenion gofal y claf. Byddai'r meddyginiaethau presennol, cynlluniau triniaeth parhaus a chyfeiriadau'n parhau i gael eu rheoli'n briodol yn ystod unrhyw gyfnod o newid.”
Pa gymorth fydd ar gael ar gyfer cleifion sy'n agored i niwed?
“Caiff cleifion sydd ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal lliniarol, unigolion â chyflyrau iechyd cymhleth, oedolion hŷn, cleifion eiddil, cleifion ag anableddau neu anawsterau symudedd, ac unigolion sydd angen cymorth uwch, eu hystyried yn ofalus trwy gydol y broses.
Bydd cymorth ychwanegol a chymorth personol ar gael pan fo angen er mwyn sicrhau bod cleifion sy'n agored i niwed yn parhau i dderbyn gofal diogel a phriodol. Un opsiwn sydd ar gael yw na fydd cleifion sy'n wynebu amgylchiadau hynod heriol yn cael eu symud o HPI.”
Sut fydd hyn yn gwella gwasanaethau?
“Nod y cynigion yw gwella sut y caiff gwasanaethau meddygon teulu eu trefnu ar draws yr ardal.
Trwy alinio cleifion yn agosach â phractisau'n nes at ble maent yn byw, efallai y bydd y newidiadau'n helpu i wella mynediad at wasanaethau lleol, lleihau'r angen i glinigwyr sy'n cynnal ymweliadau â chartrefi deithio, gwella effeithlonrwydd ar draws practisau, rhoi cymorth o ran cynaliadwyedd y gweithlu, a helpu practisau cyfagos i atgyfnerthu a thyfu eu gwasanaethau.
Yr amcan cyffredinol yw helpu i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu lleol yn parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hygyrch yn y tymor hir.”
Sut allaf rannu fy sylwadau?
“Bydd adborth a gesglir yn ystod y cyfnod ymgysylltu'n cael ei adolygu cyn y caiff unrhyw gynigion eu hystyried yn ffurfiol. Gallwch roi adborth trwy fynd i un o'r digwyddiadau ymgysylltu neu alw heibio, siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o dîm y prosiect, ysgrifennu at y practis neu'r Bwrdd Iechyd, cysylltu â Llais, a defnyddio'r sianeli adborth pwrpasol a amlinellir yn y llythyr hwn.”
Gellir cyflwyno adborth trwy e-bost hefyd i bcu.denbighshireprimarycare@wales.nhs.uk
“Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn hefyd ar 03000 851860. Caiff y llinell ffôn ei staffio rhwng 10am a 2pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i'r oriau hyn, byddwch yn gallu neges llais.”
A fydd practisau meddygon teulu cyfagos yn gallu derbyn cleifion ychwanegol?
“Mae BIPBC yn gweithio'n agos gyda phractisau meddygon teulu cyfagos fel rhan o'r broses hon.
Mae rhai practisau lleol wedi datgan diddordeb mewn cynyddu niferoedd eu cleifion fel ffordd o atgyfnerthu cynaliadwyedd eu gwasanaethau ac ategu datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.
Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig ond yn symud ymlaen pe bai hyder y gallai practisau roi cymorth i gleifion ychwanegol yn ddiogel tra'n parhau i gynnig gofal o ansawdd uchel.”
Pam mae BIPBC ynghlwm wrth y broses hon?
“Caiff Healthy Prestatyn Iach ei reoli'n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn hytrach na gweithredu fel practis meddyg teulu sy'n gontractwr annibynnol.
Fel rhan o'i gyfrifoldeb o ran cynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd cynaliadwy, mae BIPBC yn adolygu sut y caiff gwasanaethau eu trefnu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r broses ymgysylltu bresennol yn rhan o'r cyfrifoldeb ehangach hwnnw i sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i fod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy ar draws Gogledd Cymru.”
Pa bractisau meddyg teulu eraill a allai fod ar gael?
“Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, bydd cleifion sy'n byw yn y cyfeiriadau dan sylw yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i ofal Practis Meddyg Teulu arall, yn agos at ble maent yn byw. Os bydd cleifion yn awyddus i newid i bractis arall ar ôl dyrannu, byddant yn cysylltu â'r practis o'u dewis ac yn cwblhau'r broses gofrestru er mwyn ymuno â'u rhestr cleifion.”
Mae'r practisau canlynol yn gyfrifol am yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio:
| Practis Meddyg Teulu | Yr Ardal a gwmpesir |
|---|---|
|
Park House Surgery 26 Nant Hall Rd, Prestatyn, LL19 9LN |
Prestatyn, Rhyl and Ffynnongroyw |
|
Clarence Medical Centre West Kinmel Street, Rhyl, LL18 1DA |
Prestatyn, Rhyl and Rhuddlan |
|
Madryn House Surgery 6 Madryn Avenue, Rhyl, LL18 4RS |
Rhyl and Rhuddlan |
|
Kings House Surgery Kings Avenue, Rhyl, LL18 1LT |
Rhyl and Dyserth |
|
Lakeside Medical Centre Wellington Road, Rhyl, LL18 1LR |
Rhyl and Rhuddlan |
|
Pendre Surgery Coleshill Street, Holywell, CH8 7UP |
East of Prestatyn |
|
Bodowen Surgery Halkyn Street, Holywell, CH8 7GA |
East of Prestatyn |
|
Panton Surgery Halkyn Road, Holywell, CH8 7SG |
East of Prestatyn |
|
Pennant Surgery Off High Street, Holywell, CH8 7TR |
East of Prestatyn |
|
Pen Y Bont Surgery The Roe, Saint Asaph LL17 0LU |
Rhuddlan and Bodelwyddan |
A fyddaf yn cael fy ngadael heb feddyg teulu?
“Na fyddwch. Os caiff y newidiadau arfaethedig i'r ffin eu cymeradwyo, ni fyddwch yn cael eich gadael heb fynediad at feddyg teulu.”
“Byddai cleifion sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau'n cael eu trosglwyddo i bractis meddyg teulu arall sy'n gwasanaethu'r ardal ble maent yn byw. Byddai'r broses hon yn cael ei chynllunio a'i rheoli'n ofalus, a byddech wedi cael gwybod ymlaen llaw i ba bractis yr oeddech wedi cael eich dyrannu.”
“Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau ar hyn o bryd. Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, byddai trosglwyddo i bractis meddyg teulu newydd yn cael ei drefnu'n awtomatig ar eich rhan chi, ac ni fyddai angen i chi gysylltu â phractis arall eich hun neu i gofrestru ag un.”
“Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud, ac nid oes unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud. Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, byddwch yn derbyn gwybodaeth glir a chymorth trwy gydol y broses.”
A fydd yn rhaid i mi wneud unrhyw beth os bydd fy mhractis meddyg teulu yn newid?
“Yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd.”
“Os byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynigion, byddai cleifion sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau i'r ffin yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i bractis meddyg teulu newydd, felly ni fyddai angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru.”
“Ar ôl trosglwyddo, pe baech yn awyddus i gofrestru â phractis meddyg teulu gwahanol sydd ar gael i'ch cyfeiriad chi ac sy'n derbyn cleifion newydd, byddech yn gallu gwneud hynny trwy gysylltu â'r practis hwnnw ac yn cwblhau eu proses gofrestru arferol. Bydd rhagor o wybodaeth ac arweiniad yn cael eu darparu pe bai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo.”
A fyddaf yn gallu defnyddio'r un fferyllfa?
“Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch.”
“Mae'ch practis meddyg teulu a'ch fferyllfa gymunedol yn wasanaethau ar wahân. Nid yw newid i bractis meddyg teulu arall fel arfer yn golygu bod yn rhaid i chi newid y fferyllfa lle byddwch yn casglu eich presgripsiynau."
“Os ydych yn fodlon gyda'ch fferyllfa bresennol a'i bod yn gallu parhau i ddarparu eich presgripsiynau, dylech allu parhau i'w defnyddio fel arfer. Os bydd angen unrhyw newidiadau, bydd eich practis meddyg teulu newydd yn esbonio eich opsiynau ac yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar eich meddyginiaeth.”
A fydd y practisau eraill yn gallu ymdopi â chleifion ychwanegol?
“Byddai newidiadau ond yn cael eu gwneud pe bai hyder y gallai practisau cyfagos ofalu am gleifion ychwanegol yn ddiogel ac yn effeithiol.”
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi bod yn gweithio gyda phractisau meddygon teulu lleol trwy gydol y broses o ddatblygu'r cynigion hyn. Mae capasiti practisau cyfagos wedi cael ei ystyried fel rhan o'r broses gynllunio, a byddai unrhyw drosglwyddiadau'n cael eu rheoli'n ofalus a'u cyflawni fesul cam yn hytrach na digwydd ar yr un pryd. Os na fydd practisau yn gallu derbyn cleifion ychwanegol neu os byddant yn anfodlon gwneud hynny, ni fyddant yn eu derbyn.”
“Y nod yw sicrhau dosbarthiad mwy cytbwys a chynaliadwy o gleifion ar draws practisau lleol gan gynnal gofal diogel ac o ansawdd uchel i bawb.”
Beth yw barn practisau meddygon teulu eraill am y cynigion hyn?
“Mae practisau meddygon teulu cyfagos wedi cael eu cynnwys mewn trafodaethau trwy gydol y broses gynllunio”.
“Mae rhai practisau lleol wedi dweud wrth BIPBC y byddai cynyddu niferoedd eu cleifion yn helpu i atgyfnerthu cynaliadwyedd eu gwasanaethau yn y tymor hir ac yn ategu datblygu gwasanaethau yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni fyddai disgwyl i unrhyw bractis dderbyn cleifion ychwanegol oni bai ei fod yn hyderus y gallai wneud hynny'n ddiogel.”
“Mae'r cynigion wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â phractisau lleol, ac nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi cael ei wneud eto. Bydd adborth cleifion yn ystod y cyfnod ymgysylltu hefyd yn helpu i fod yn sail i unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol.”
Beth fydd yn digwydd os ydw i'n aros am apwyntiad ysbyty neu gyfeiriad?
“Bydd eich gofal ysbyty parhaus yn parhau i fod ar gael.”
“Bydd unrhyw gyfeiriadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud, safleoedd ar restrau aros, ymchwiliadau a chynlluniau triniaeth yn parhau i fod yn eu lle.”
“Caiff eich cofnodion meddygol eu trosglwyddo'n ddiogel i bractis meddyg teulu newydd, a bydd y meddyginiaethau, y cyfeiriadau a'r cynlluniau triniaeth presennol yn dal i gael eu rheoli trwy gydol y broses o newid. Os bydd ar eich practis meddyg teulu angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd sianeli cyfathrebu wedi'u sefydlu rhwng practisau'n helpu i sicrhau dilyniant eich gofal.”
A fydd yn haws neu'n anos cael apwyntiad?
“Nod y cynigion yw gwella cynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu yn y tymor hir ar draws yr ardal a sicrhau bod niferoedd cleifion yn cyd-fynd yn well a chapasiti practisau lleol.”
“Ni fyddai unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud oni bai bod hyder y gallai practisau cyfagos ofalu am gleifion ychwanegol yn ddiogel tra'n parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Er y gallai systemau apwyntiadau amrywio rhwng practisau, y bwriad yw sicrhau bod cleifion yn parhau i gael mynediad at ofal meddyg teulu diogel a phrydlon yn nes at ble maent yn byw.”
Beth os bydd angen ymweliadau â'r cartref arnaf?
“Bydd ymweliadau â'r cartref yn parhau i fod ar gael i gleifion os bydd asesiadau clinigol yn dangos bod angen un arnynt.”
“Un o'r rhesymau dros adolygu ffiniau practis yw alinio cleifion yn well â'r practisau meddygon teulu yn nes at ble maent yn byw. Mae hyn yn helpu practisau i gynnig ymweliadau â'r cartref yn fwy effeithlon ac mae'n galluogi clinigwyr i dreulio mwy o amser yn gofalu am gleifion a llai o amser yn teithio. Os ydych yn derbyn ymweliadau â'r cartref ar hyn o bryd oherwydd eich cyflwr meddygol, bydd eich practis meddyg teulu newydd yn parhau i'ch asesu ac i ddarparu'r rhain lle bo hyn yn briodol ar lefel glinigol.”
A fydd angen i mi roi gwybod i'r ysbyty fy mod wedi newid i feddyg teulu arall?
“Na fydd. Os bydd eich practis meddyg teulu yn newid fel rhan o'r cynigion cymeradwy, caiff eich cofrestriad meddyg teulu a'ch cofnodion meddygol eu diweddaru fel rhan o'r broses drosglwyddo.”
“Bydd eich practis meddyg teulu newydd yn derbyn eich gwybodaeth glinigol yn ddiogel, a bydd ysbytai'n gallu canfod eich meddyg teulu cofrestredig trwy systemau'r GIG. Os bydd angen i chi wneud unrhyw beth mewn perthynas ag apwyntiad ysbyty penodol, cewch wybod am hynny ar yr adeg, ond yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd angen i chi gysylltu â'r ysbyty eich hun.”
A yw hyn yn golygu bod Healthy Prestatyn Iach yn cau?
“Nac ydy”.
“Mae'r cynigion hyn yn ymwneud â ffin y practis, nid cau Healthy Prestatyn Iach (HPI). Byddai HPI yn parhau i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu ar gyfer cleifion sy'n byw o fewn ei ffin practis diwygiedig pe bai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo”.
“Y nod yw sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hygyrch yn y tymor hir trwy alinio ffiniau practisau'n well â ble mae cleifion yn byw a chapasiti practisau lleol. Nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi cael ei wneud, ac mae'r cynigion yn destun proses ymgysylltu ffurfiol â'r cyhoedd ar hyn o bryd”.