Cofnod crynodeb gofal

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Cofnodion Crynodeb Gofal (SCR)

Eich Cofnod Crynodeb Gofal yw crynodeb byr o’r cofnodion meddygol sydd gan eich meddyg teulu. Mae'n dweud wrth staff iechyd a gofal eraill sy'n gofalu amdanoch am y meddyginiaethau rydych yn eu cymryd a'ch alergeddau.

Bydd hyn yn galluogi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gael gwell gwybodaeth feddygol amdanoch pan fyddan nhw yn eich trin chi yn y pwynt gofal. Bydd y newid hwn yn weithredol tra pery y pandemig coronafeirws yn unig. Oni bai bod trefniadau amgen wedi eu rhoi yn eu lle cyn diwedd cyfnod yr argyfwng, fe wrthdroir y newid hwn.

Mae gan yr holl gleifion a gofrestrwyd gyda meddyg teulu Gofnod Crynodeb Gofal, oni bai iddynt ddewis peidio â chael un. Mae'r wybodaeth sydd yn eich Cofnod Crynodeb Gofal yn rhoi mynediad i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, i ffwrdd o'ch practis meddyg teulu arferol, i wybodaeth i ddarparu gofal mwy diogel ar eich cyfer, lleihau'r risg o wallau rhagnodi a gwella eich profiad fel claf.

Mae eich Cofnod Crynodeb Gofal yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol ynghylch alergeddau a meddyginiaethau ac unrhyw adweithiau i feddyginiaethau yr ydych wedi eu cael yn y gorffennol.

Mae rhai cleifion, yn cynnwys nifer gyda chyflyrau iechyd hir dymor, wedi cytuno'n flaenorol i  wybodaeth ychwanegol gael ei rhannu fel rhan o'u Cofnod Crynodeb Gofal. Mae'r wybodaeth ychwanegol hon yn cynnwys gwybodaeth am hanes meddygol arwyddocáol (gorffennol a phresennol), rhesymau dros feddyginiaethau, gwybodaeth cynllun gofal ac imiwneiddio.

Yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirws, bydd eich Cofnod Crynodeb Gofal wedi ychwanegu gwybodaeth ychwanegol yn awtomatig o'ch cofnod meddyg teulu oni bai eich bod eisoes wedi dweud wrth y GIG nad oeddech eisiau i'r wybodaeth hon gael ei rhannu.

Bydd hefyd newid dros dro i gynnwys codau penodol COVID-19 mewn perthynas â Rhestr Cleifion a amheuir, achosion a gadarnhawyd, Cleifion sy’n Cysgodi a gwybodaeth arall gysylltiedig â COVID-19 o fewn yr wybodaeth ychwanegol.

Drwy gynnwys yr wybodaeth  ychwanegol yma yn eich SCR, bydd staff iechyd a gofal yn gallu rhoi gwell gofal i chi os bydd arnoch angen gofal iechyd heb fod yn eich practis meddyg teulu arferol:

  • mewn argyfwng
  • pan fyddwch ar wyliau
  • pan fydd eich practis ar gau
  • mewn clinigau cleifion allanol
  • pan fyddwch yn ymweld â fferyllfa
 

Mae gwybodaeth ychwanegol wedi ei chynnwys ar eich SCR

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19) rydym yn tynnu yr angen am gael caniatâd penodol i rannu gwybodaeth ychwanegol y SCR dros dro. Bydd y newid gofyniad hwn yn cael ei adolygu pan fydd y pandemig drosodd.

Gallwch gael eich sicrhau os ydych wedi optio allan o gael Cofnod Crynodeb Gofal yn flaenorol neu wedi gwrthod yn benodol i rannu'r wybodaeth ychwanegol yn eich Cofnod Crynodeb Gofal, y bydd yr hyn rydych yn ei ffafrio yn parhau i gael ei barchu a'i gymhwyso.

Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol o'ch cofnod meddyg teulu gan gynnwys:

  • problemau iechyd megis dementia neu ddiabetes
  • manylion eich gofalwr
  • yr hyn yr ydych yn ei ffafrio o ran triniaeth
  • anghenion cyfathrebu, er enghraifft os oes gennych drafferthion clyw neu angen dehonglwr

Bydd hyn yn helpu'r staff meddygol i ofalu amdanoch yn iawn, a pharchu eich dewisiadau, pan fydd angen gofal arnoch heb fod yn eich practis meddyg teulu. Mae hyn oherwydd bod cael mwy o wybodaeth ar eich SCR yn golygu y bydd ganddynt well dealltwriaeth o'ch anghenion a'ch hoffterau.

Pan gewch eich trin heb fod yn eich practis arferol, ni all y staff gofal iechyd yno weld cofnodion meddygol eich meddyg teulu. Gall edrych ar eich SCR gyflymu eich gofal a sicrhau eich bod yn derbyn y meddyginiaethau a'r driniaeth gywir.

Yr unig bobl a all weld eich Cofnod Crynodeb Gofal yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a rheoledig, er enghraifft meddygon, nyrsys, parafeddygon, fferyllwyr a staff sy’n gweithio o dan eu goruchwyliaeth uniongyrchol. Fydd eich Cofnod Crynodeb Gofal ddim ond yn cael ei gyrchu fel y gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi gofal unigol i chi. Ni all staff nad ydynt yn gweithio i sefydliadau nad ydynt yn darparu gofal uniongyrchol weld eich Cofnod Crynodeb Gofal.

Cyn cyrchu Cofnod Crynodeb Gofal bydd staff gofal iechyd bob amser yn gofyn eich caniatâd i'w weld, oni bai ei bod yn argyfwng meddygol ac na allwch roi caniatâd.

 

Amddiffyn eich gwybodaeth SCR

Bydd staff yn gofyn eich caniatâd i weld eich SCR (ar wahân i mewn argyfwng ble rydych yn anymwybodol er enghraifft) a dim ond staff gyda lefelau gwiriad diogelwch cywir sy'n gallu cael mynediad i'r system, felly mae eich gwybodaeth yn ddiogel. Gallwch ofyn i sefydliad ddangos cofnod i chi o'r sawl sydd wedi edrych ar eich SCR - gelwir hyn yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth.

Canfod sut i wneud cais gwrthrych am wybodaeth

 

Optio allan

Pwrpas y SCR yw gwella'r gofal rydych yn ei dderbyn, fodd bynnag, os nad ydych yn awyddus i gael SCR, mae gennych yr opsiwn i optio allan. Os ydych yn ffafrio hyn, rhowch wybod os gwelwch yn dda i'ch meddyg teulu neu llenwch ffurflen optio allan SCR a'i dychwelyd i bractis eich meddyg teulu.

Waeth beth fu eich penderfyniadau yn y gorffennol ynghylch dewisiadau caniatâd o ran eich Cofnod Crynodeb Gofal, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd. Gallwch ddewis unrhyw un o'r opsiynau canlynol:

  1. Cael Cofnod Crynodeb Gofal gyda gwybodaeth ychwanegol wedi ei rhannu. Golyga hyn y gall unrhyw weithiwr iechyd a gofal proffesiynol awdurdodedig, cofrestredig a rheoledig weld Cofnod Crynodeb Gofal wedi ei gyfoethogi os bydd angen iddynt roi gofal uniongyrchol i chi.
  2. Cael Cofnod Crynodeb Gofal gyda gwybodaeth graidd yn unig. Golyga hyn y gall unrhyw weithiwr iechyd a gofal proffesiynol, awdurdodedig, cofrestredig a rheoledig weld gwybodaeth ynghylch alergeddau a meddyginiaethau sydd ddim ond ar eich Cofnod Crynodeb Gofal os bydd angen iddynt roi gofal uniongyrchol i chi.
  3. Optio allan o gael Cofnod Crynodeb Gofal yn gyfan gwbl. Golyga hyn nad ydych yn awyddus i rannu unrhyw wybodaeth gyda gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, awdurdodedig, cofrestredig a rheoledig ynghlwm â'ch gofal uniongyrchol, gan gynnwys mewn argyfwng.

I wneud y newidiadau hyn, dylech hysbysu eich practis meddyg teulu neu gwblhau ffurflen dewisiadau caniatâd claf SCR a'i dychwelyd i'ch practis meddyg teulu.

 

Mwy o wybodaeth am eich cofnodion iechyd

Darllen mwy am eich cofnodion meddygol