Brechiadau Teithio

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Os oes angen unrhyw frechiadau yng nghyswllt teithio dramor dylech wneud apwyntiad gyda'r nyrs practis i drafod eich trefniadau teithio. Bydd hyn yn cynnwys pa wledydd ac ardaloedd o fewn gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw i bennu pa frechiadau sydd eu hangen.

Ceir gwybodaeth bellach ynghylch gwledydd a'r brechiadau sydd eu hangen ar wefan  Fit For Travel website

Mae'n bwysig trefnu'r apwyntiad cychwynnol hwn mor gynnar â phosibl - o leiaf 6 wythnos cyn i chi deithio - oherwydd bydd angen ail apwyntiad gyda'r nyrs practis i dderbyn y brechiadau. Rhaid i'r brechiadau hyn gael eu harchebu gan nad ydynt yn frechlyn stoc. Mae angen i'ch ail apwyntiad fod o leiaf 2 wythnos cyn i chi deithio i ganiatáu i'r brechlyn weithio.

Archebir rhai brechlynau teithio ar bresgripsiwn preifat ac mae'r rhain yn gost ychwanegol i gost arferol presgripsiwn. Mae hyn gan nad yw'r holl frechiadau teithio wedi eu cynnwys yn y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG.

 

Holiadur Iechyd Teithio

I'n cynorthwyo ni i gynnig y cyngor priodol,  llenwch y ffurflen ar-lein cyn dod i weld y nyrs. 

 

Teithio yn Ewrop

Os ydych yn teithio i Ewrop, mae'r UE wedi cyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol i deithwyr ar y  wefan Ewropeaidd.