Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu'r profiad ar-lein gorau i chi. Drwy ddefnyddio'r safle hon, rydych yn cytuno y gallem storio a chyrchu cwcis ar eich dyfais. Polisi cwcis. Gosodiadau cwcis.
Cwcis Swyddogaethol
Mae Cwcis Swyddogaethol wedi'u galluogi yn ddiofyn bob amser fel y gallwn arbed eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis a sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn darparu'r profiad gorau.
Cwcis Trydydd Parti
Mae'r wefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth anhysbys megis nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd. Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.
Unedau Man Anafiadu (MIUs)
Os oes gennych chi anaf nad yw'n un difrifol gallwch fynd i Uned Mân Anafiadau am gymorth, yn hytrach na mynd i adran Achosion Brys..
Mae'r Unedau Mân Anafiadau (MIU) yn cael eu staffio gan ymarferwyr achosion brys profiadol sy'n cael eu cefnogi gan gynorthwywyr gofal iechyd ac nid oes unrhyw feddygon yn MIU. Bydd cleifion sy'n mynd i un o'r unedau'n cael eu hasesu a'u trin cyn gynted â phosibl. Os na all yr Uned Mân Anafiadau ddelio â'ch cyflwr, cewch eich cyfeirio at eich meddyg teulu neu'ch Adran Achosion Brys agosaf neu at wasanaeth priodol arall.
Pa fath o anafiadau y gellir eu trin mewn Uned Mân Anafiadau?
- Torri esgyrn (torasgwrn)
- Datgymaliadau, sigiadau a streifiadau
- Ymosodiadau
- Clwyfau a mân losgiadau
- Pigiadau gan bryfed
- Anafiadau i’r asennau (os nad oes peswch yn cynnwys gwaed neu haint ar y frest)
- Brathiadau gan bryfed, anifeiliaid a phobl
- Cyrff estron yn y llygaid, clustiau a'r trwyn
- Anafiadau i'r pen neu'r wyneb (os nad oes unrhyw golled neu newid i lefel ymwybyddiaeth)
- Anafiadau anhreiddiol i'r llygaid a'r clustiau
- Mân anafiadau i'r gwddf
- Mân anafiadau i’r cefn
Sylwer – Nid yw’r holl Unedau Mân Anafiadau yn cynnig pob un o’r uchod.
Cysylltwch â'ch Uned Mân Anafiadau i weld a allant ddelio â'ch anaf/salwch cyn i chi ymweld. Er enghraifft, efallai na fydd rhai ohonynt yn gallu rhoi pelydr-X er mwyn canfod a ydych wedi torri asgwrn.
Yr hyn na ellir eu trin mewn Uned Mân Anafiadau
Ni all unedau mân anafiadau trin cleifion sydd wedi llewygu, sydd â phoen yn y frest, problemau anadlu, poen yn yr abdomen, problemau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gorddos o gyffuriau, problemau gynaecolegol, cyflyrau iechyd y byddai meddyg teulu'n delio â nhw fel arfer megis mân salwch, problemau iechyd meddwl, problemau deintyddol, anaf i'r gwddf, anaf i'r frest neu'r cefn.
Gwasanaeth galw heibio yw Unedau Mân Anafiadau ac nid oes angen apwyntiad a GIG 111 Cymru yw'r man cychwyn cyntaf, wrth gwrs. Fodd bynnag os byddwch yn dal yn ansicr, mae'n well ffonio'r MIU, i'ch cyfeirio at y lle cywir, ar yr amser cywir a hynny ar y tro cyntaf.
Ble mae'ch Uned Mân Anafiadau agosaf?
Ysbyty Dinbych, Ffordd Rhuthun, Dinbych, LL16 3ES
Ar agor: O 8am i 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
Rhif ffôn: 03000 850 019
Amseroedd agor yr adran Pelydr-X (ffoniwch: 03000 855 774): o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9:30am i 12pm ac o 2pm i 4:30pm
Ysbyty Treffynnon, Ffordd Halkyn, Treffynnon, CH8 7TZ
Ar agor: O 8am i 8pm, 7 niwrnod o'r wythnos
Rhif ffôn: 03000 856 739